Mae'r Aflonyddwch Mawr yn galw am Gyngres Weriniaethol Sosialaidd Gymreig ar gyfer Adnewyddu ac ailfywiogi’r Mudiad am Annibyniaeth yma yng Nghymru.
Mae'r Aflonyddwch Mawr yn cael ei ysbrydoli gan y symudiad
mas yn yr Alban ar gyfer annibyniaeth ac yn benodol â'r Mudiad Annibyniaeth
Radical yno ac rydym yn edmygu'r Gydweithfa Cenedlaethol o artistiaid a phobl
greadigol sydd wedi uno yn y frwydr i adennill Annibyniaeth Cenedlaethol yr
Alban.
Mae angen i ni yma yng Nghymru geisio ag efelychu’r sbectrwm
llawn o farn genedlaetholgar a sosialaidd a gynrychiolir yn y mudiad
cenedlaethol torfol a drefnwyd yno.
Ar hyn o bryd, mae’r sefyllfa yn wahanol iawn yng Nghymru
lle mae'r mudiad am annibyniaeth yn rhwygedig ac yn wan ac, o ganlyniad, yn
dioddef o sectyddiaeth.
Mae’r sectyddiaeth yn glefyd marwol y gellir ei oresgyn ar
yr adeg allweddol yma yn hanes ein cenedl, drwy roi buddiannau'r genedl uwchlaw
gwahaniaethau gwleidyddol sectyddol sydd wedi atal ein twf.
Mae gan Plaid Cymru berthynas anesmwyth gyda'r syniad o
Annibyniaeth Cymru ac mae yna ‘Brydeinwyr’ ymysg arweinyddiaeth y Blaid a
fyddai'n fascwlareiddio ac yn gwrthwynebu / bradychu unrhyw ymgyrch o ddifrif
dros ennill Annibyniaeth i Gymru o'r Wladwriaeth Brydeinig.
Mae'r frwydr yn erbyn Eidioleg Prydeinig ei naws yn hanfodol
os yw’r ymgyrch dros Gymru Annibynnol i ennill tyfiant poblogaidd, dyna pam, yn
2015, byddwn yn cyhoeddi ‘Hanes brwydro'r Pobl yng Nghymru’.
Mae'r grŵp o Brydeinwyr ym Mhlaid Cymru yn berchen â
grymoedd allweddol sy'n gefnogol i’r melinwyntio diwydiannol a gwladychiaeth
‘eco’ sy’n cymryd lle yng Nghymru heddiw ac mae hyn, yn ddi-os, yn rhannol
gyfrifol dros y gostyngiad yn nifer aelodaeth y Blaid.
Mae’r un grym o fewn i Blaid Cymru yn gefnogol i’r Undeb
Ewropeaidd yn ogystal ag maent yn awyddus i gyfnewid y bunt ar gyfer yr Ewro
a’n gosod o dan dasgfeistr Ewropeaidd yn gyfnewid i’r un Brydeinig! Nid dyna yw ein nod ni neu unrhyw berson rhesymol arall ar
gyfer Cymru Annibynnol.
Mae'r gefnogaeth yma i ‘Eco
Wladychiaeth’ a’r ‘Cyfalafiaeth Gwyrdd’ Fyd-eang yn ogystal â'r gefnogaeth ar
gyfer yr Undeb Ewropeaidd a'r rheol fiwrocrataidd o Frwsel yn tanseilio'r
frwydr ddemocrataidd a dyheadau pobl Cymru yn yr 21ain ganrif.
Yn drychinebus, mae polisi Plaid
Cymru parthed aros yn yr Undeb Ewropeaidd wedi sbarduno 200,000 o bleidleiswyr
yn Marcha Wallia i bleidleisio UKIP yn yr Etholiadau Ewropeaidd diwethaf! Rhaid
ennill y pleidwyr yma yn ôl i gefnogi’r frwydr am Annibyniaeth i Gymru.
Mae'n rhaid i’r Mudiad
Cenedlaethol yng Nghymru fabwysiadu polisïau sy’n ehangu ei apêl ac, yn sicr,
tydi Plaid Cymru ddim yn cynnig unrhyw arweiniad i’r cyfeiriad hynny ar hyn o
bryd felly, mae’n hanfodol bod Gweriniaethwyr Sosialaidd Cymru yn tyfu’n rymus i gywiro gwallau strategol Plaid
Cymru i ehangu apêl y Mudiad Cenedlaethol Cymreig.
Felly, fel y mae Plaid Cymru yn
sefyll yn ei ymgnawdoliad presennol, gellir ddim gweld sut yr ellir ymddiried
yn y blaid yma fel cerbyd sy'n addas i arwain y rhyfel gwleidyddol difrifol
fydd angen ei brwydro i ennill Annibyniaeth i Gymru ac oherwydd, mae gwir angen
i ni greu grym newydd yng Ngwleidyddiaeth Cymru a fydd yn cenhadu’n ddiflino am
yr angen am Gymru Annibynnol a chredwn y dylai’r sefydliad hynny fod yn Gyngres
Weriniaethol Sosialaidd Cymreig.
Gall aelodau unigol o Blaid Cymru
a mudiadau cenedlaetholgar a sosialaidd eraill ymaelodi â’r Gyngres
Weriniaethol Sosialaidd arfaethedig yma a chychwyn yn ddi-oed ar y gwaith caled
ond angenrheidiol o dargedu i ennill miliwn o Gymry i gefnogi’r frwydr Am
annibyniaeth i Gymru erbyn 2017.
I'r perwyl hwnnw, rydym yn galw ar
gyfer sefydliad paratoadol WSRC i ddod i fodolaeth yn 2014 i baratoi ar gyfer
Gyngres Weriniaethol Sosialaidd Cymru ym Mehefin 2015.
Bydd y Gyngres yn gosod y
strategaeth a thactegaeth ar gyfer Mudiad Annibyniaeth Cymru ar gyfer y
blynyddoedd o ymgyrchu hyd at 2017.
Bydd y Gyngres yn cael ei gynnull
ddwywaith y flwyddyn i adolygu llwyddiannau a methiannau.
Mae gennym ein cenedl - Gymru i ennill ar gyfer Rhyddid Cenedlaethol a Chymdeithasol
ein pobl… Cipiwch y cyfle!
No comments:
Post a Comment