Thursday 14 June 2018

Yr hen dderwen ddu - the Old Carmarthen Oak





All Good things (and bad) come from Carmarthen the home and capital of the Welsh Republican Movement since 1949 - we continue the struggle

Yr hen dderwen Ddu (cyfieithiad o gân Frank Hennessey ‘The Old Carmarthen Oak)

A minnau’n mynd un bore, yn gynnar, tua’r ffair
Fe gwrddais eneth ifanc a’i gwallt yn donnau aur.
Yr eneth ger Caerfyrddin, a’i llais fel llais y lli
Arhosais i am ennyd fach i sgwrsio gyda hi.

Cytgan

Y ferch mewn brethyn cartre’,tyrd i eistedd gyda mi
a dweda i iti’r stori am yr hen, hen dderwen ddu.

A ni ar gwr Caerfyrddin, edrychodd arna i’n flin
Wrth fy ngweld yn codi ‘nghap i bwt o goeden grin
 Ond dwedais wrthi’r hanes: pe gwympai’r goeden hon,
 Yn ôl yr hen chwedloniaeth, âi’r dref o dan y don

Cytgan

A dyma hi yn chwerthin a’m gwneud i deimlo’n ffôl
bod crwt fel fi yn credu hen stori oesau nôl.
Ond roedd ei llais yn heintus, a’i gruddiau hi mor llon
Fe deimlais i ryw chwithdod a chyffro yn fy mron

Cytgan A nawr rwyf ar f’aelwyd a’m cymar gyda mi,
yr eneth gyntra’ gwrddais gerbron y dderwen ddu.
Fy nheulu sydd yn gyflawn a bywyd sydd yn win
Am imi godi ‘nghap un dydd i bwt o goeden grin

Cytgan x2



SEE ALSO:

https://greatunrest2012.blogspot.com/2018/05/the-bells-of-rhymney-is-there-hope-for.html

No comments:

Post a Comment