Wednesday, 20 June 2018

I ymladd dros ryddid dy wlad - Plethyn - Hyddgen - celebrating a Welsh Victory at Battle of Hyddgen June 1401



Mor dawel yw'r llethrau heno
O Hyddgen i Darren Bwlch Gwyn
A'r niwlen yn drwch dros y moelni
Fel amdo a'r Garn at y llyn
Daw dim i darfu ar lonyddwch
Gylfinir a'i chri uwch y dwr
A'r defaid yn pori'n ddihidio
Wrth Gerrig Cyfamod Glyndwr

(Cytgan:) Hyddgen, unwaith fe gefaist dy awr
 A seiniau buddugoliaeth yn atsain drwy'r tir
A seiniau buddugoliaeth drwy'r tir

Ni welir un milwr yno
O Hyddgen i Darren Bwlch Gwyn
Daeth rhoncwellt canrifoedd i guddio
Pob defnyn o waed ar y bryn
Ond lle bu ei faner unwaith
Ar gopa Pumlumon Fawr
 Mae'r creigiau yn dal y dystio
I Hyddgen gael ei awr

Cytgan) A dreuliaist ti orig ar Hyddgen
A cherdded hyd Darren Bwlch Gwyn
I brofi o falchder hen fynydd
Sy'n datgan 'Bu Owain fan hyn'?
 A deimlaist ti gynwrf y goncwest
A glywaist ti utgorn y gad
Yn dal i'th alw i'r frwydr
 I ymladd dros ryddid dy wlad??








JUNE 1401 SOUNDS OF VICTORY THROUGHOUT THE LAND 

No comments:

Post a Comment