Gall Cymru weld y protestiadau mwyaf mewn cenhedlaeth wrth i 60 arweinwyr y byd gyfarfod yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd ar gyfer uwchgynhadledd NATO ar 4-5 Medi
Gall Cymru weld y protestiadau mwyaf mewn cenhedlaeth wrth i 60 arweinwyr y byd gyfarfod yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd ar gyfer uwchgynhadledd NATO ar 4-5 Medi i gynllunio eu rhyfel ar y byd. Gwelwyd miloedd o bobl yn protestio yn erbyn rhyfel, llymder ac anghydraddoldeb byd-eang mewn uwchgynhadleddau blaenorol yn Chicago a Strassbourg
O Awst 30 ymlaen bydd pobl yn heidio i Dde Cymru ar gyfer gweithredu rhyngwladol gan gynnwys gorymdaith penwythnos a Gwrth Uwchgynhadledd, gwersyll heddwch wythnos o hyd, a phrotestiadau ar ddiwrnod agoriadol yr uwchgynhadledd.
Mae NATO yn gynghrair milwrol sydd yn rhwymo Ewrop i bolisi tramor yr Unol Daleithiau, polisi tramor ôl-Irac sydd yn fwyfwy amhoblogaidd o amgylch y byd. Hwn hefyd yw'r gynghrair milwrol sydd ar hyn o bryd yn meddiannu Afghanistan.
Rhyfel ydi gelyn y tlawd. Mae gan 85 o bobl cyfoethocaf y byd gymaint â'r 3.5 biliwn tlotaf. Y swm blynyddol sydd ei angen i roi terfyn ar newyn byd ydi $30 biliwn tra fod cyllideb milwrol yr Unol Daleithiau yn $530 biliwn y flwyddyn.
Mae arian i fewn i ryfel yn arian allan o'n cymunedau. Yn y DU, roedd 500,000 o bobl wedi gorfod troi at fanciau bwyd y llynedd. Tra fod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu torri, gallai un diwrnod o'r rhyfel yn Afghanistan ariannu 100,000 o nyrsys.
Yr Hydref hwn, fe glywir llais y pwerus yn Uwchgynhadledd NATO. Rhaid i ni wneud yn siw^r bod llais y miliynau o gwmpas y byd sydd angen heddwch a chyfiawnder yn cael ei glywed hefyd .
I ychwanegu eich enw neu eich sefydliad i'r datganiad hwn gyrrwch e-bost:
PROTEST THE NATO SUMMIT
No to NATO. No to War. No to Austerity.
Money into war is money out of our communities. In the UK, 500,000 people had to resort to food banks last year. While public services are slashed, one day of war in Afghanistan could fund 100,000 nurses.
This autumn the powerful will make their voices heard at the NATO summit. We must make sure that the voice of the millions around the world who need peace and justice is also heard.
No comments:
Post a Comment